Ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn swyddi ar lefel weithredol uchel, gan gynnwys cyfnod fel Pennaeth Adnoddau Dynol ar gyfer cwmni electroneg Xerox yn Ewrop, treuliodd Alison bum mlynedd gyda'r cwmni cyfreithwyr Eversheds fel ymgynghorydd Adnoddau Dynol. Ym mis Mawrth 2006, sefydlodd Alison ei chwmni ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol ei hun, Calland Wright. Mae'r cwmni yn mwynhau llwyddiant parhaus wrth gynorthwyo cleientiaid gyda phrosiectau ac yn darparu cyngor strategol ar draws amryw o sectorau.
Mae Alison wedi adeiladu perthynas hir a dylanwadol gyda phortffolio eang o gleientiaid.
Mae Genevieve Ryan yn byw yng Nghasnewydd ond cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Teilo Sant yng Nghaerdydd cyn graddio o Brifysgol Morgannwg gyda gradd MSc mewn Adnoddau Dynol.
Dechreuodd Genevieve ei gyrfa yn y sector manwerthu, cyn canolbwyntio ar ei gyrfa ym maes Adnoddau Dynol yn 2001. Ers hynny, mae hi wedi cael amryw o swyddi Adnoddau Dynol yn y sectorau gwasanaethau busnes, telathrebu a manwerthu.
Mae Geneveive yn Gymrawd Siartredig o CIPD ac fe ymunodd Genevieve ag Acorn fel ei Pennaeth Adnoddau Dynol yn 2006. Tra’n gweithio i Acorn mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau mawr, gan gynnwys; Concept Staffing, Exxell ac Advance.
Yn ogystal â’i hymrwymiad i'w gwaith gydag Acorn, mae Genevieve yn mwynhau teithio’n helaeth a chymdeithasu gyda'i ffrindiau a'i theulu.
FYmunodd Fiona â Darwin Gray yn 2006 fel Ymgynghorydd Adnoddau Dynol. Fel aelod blaenllaw o’r tîm Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol, mae Fiona yn gweithio'n agos gyda'r cyfreithwyr cyflogaeth er mwyn darparu cyngor adnoddau dynol a chyfraith cyflogaeth i gleientiaid. Mae Fiona yn arbenigo mewn cynnal ymchwiliadau a gwrandawiadau disgyblu, gwrandawiadau achwyn, apeliadau, rhoi cyngor ar reoli perfformiad, absenoldeb oherwydd salwch a gallu, drafftio polisïau, gweithdrefnau, llawlyfrau a llythyrau, cynnal ymgynghoriadau ar ddiswyddiadau, cyfraith TUPE a newid telerau ac amodau. Mae hi hefyd yn hyfforddwr profiadol. Mae Fiona yn aelod o CIPD.