Gwobrau Adnoddau Dynol Cymru yw'r unig ddigwyddiad blynyddol sy'n cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth ym maes adnoddau dynol yng Nghymru, ac mewn ystod eang o sectorau.
23 MAWRTH 2017 | STADIWM SWALEC, CAERDYDD
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni a chinio tei du, o dan arweiniad Sian Lloyd o'r BBC, a bydd adloniant gan gôr swynol Only Boys Aloud choir ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau i’r holl gategorïau yw 31 Ionawr 2017.
Mae Sian Lloyd yn gyflwynydd teledu cenedlaethol.
Mae Sian yn cyflwyno BBC Breakfast (BBC One), y slot newyddion ar Marr (BBC One) ac yn ohebydd ar gyfer newyddion rhwydwaith y BBC.
Mae hi hefyd yn gweithio ar draws genres eraill. Dros y tair blynedd diwethaf, mae Sian wedi cyflwyno Crimewatch Roadshow, ac y llynedd cynhyrchwyd Sian dwy raglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru.
Dechreuodd Siân Lloyd ei yrfa fel newyddiadurwraig yng Nghymru, yn cyflwyno BBC Wales Today, yn ogystal a Good Evening Wales ar BBC Radio Wales.
Mae Sian dal i fod yn gweithio'n rheolaidd yn y byd radio, ar gyfer raglenni PM a Today a Radio 4.
Magwyd Sian yn Wrecsam yng ngogledd Cymru ac mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Cyn fod yn newyddiadurwraig, hyfforddodd Sian fel cyfreithwraig yn gweithio yn Llundain a Hong Kong.
Mae Sian wedi cadeirio nifer o ddigwyddiadau ar draws Cymru ac ymhellach i ffwrdd. Mae hi’n ddewis poblogaidd a phrofiadol i gynnal seremonïau gwobrwyo.
Rydym yn falch o groesawu Yr Arglwydd Price, Gweinidog Gwladol yn Adran Masnach Rhyngwladol i siarad yn Ngwobrau Adnoddau Dynol cyntaf Cymru.
Bu Yr Arglwydd Price gynt yn Reolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Waitrose, ac hefyd yn Ddiprwy Gadeirydd Partneriaeth John Lewis, a bydd yn rhannu dros 30 mlynedd o brofiad o reoli pobl a chwmniau uchel eu proffeil.
Ac yntau newydd orffen ysgrifennu llyfr o’r enw “Fairness for all”, sydd yn cynnwys Chwe Cham ar gyfer Gweithle Hapus, ac sydd yn rhannu’r manteision o fod a gweithlu ymroddedig, bydd y cyfle i glywed am ei weledigaeth o ran byd Adnoddau Dynol yn un amrhisiadwy ar gyfer gweithwyr AD Proffesiynol.
Cefndir
Ymunodd yr Arglwydd Price â Phartneriaeth John Lewis yn 1982 mewn safle dan hyfforddiant ar gyfer graddedigion. Bu iddo ddal nifer o swyddi cyn dod yn Reolwr Gyfarwyddwr (RhG) Waitrose yn Ebrill 2007. Cyn hyn, yn 2005, bu iddo ymuno a Bwrdd y Bartneriaeth, gan gymryd cyfrifoldeb ar gyfer datblygu busnes newydd, strategaeth a TG fel Cyfarwyddwr Datblygu. Yn Awst 2013, ynghyd â’i rôl fel RhG Waitrose, cafodd ei wneud yn ddirprwy Gadeirydd Partneriaeth John Lewis.
Bu yr Arglwydd Price yn Gadeirydd Busnes yn y Gymuned o 2011 hyd 2015, ac mae hefyd wedi dal swydd fel Dirprwy Gadeirydd Sianel 4, a Chadeirydd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog, ac fel Aelod Anweithredol o fwrdd Swyddfa’r Cabinet.
Cafodd ei apwyntio yn Gadlywydd o’r “Royal Victorian Order” yn anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2014