Y prif rwydwaith ar gyfer gweithwyr
adnoddau dynol proffesiynol yng Nghymru







Amdanom Ni

Rhwydwaith Adnoddau Dynol Cymru yw'r prif rwydwaith ar gyfer gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol yng Nghymru. Rydyn ni'n cynnig cyfres o seminarau, digwyddiadau a gweithdai perthnasol am adnoddau dynol ledled Cymru ac rydyn ni'n cynnal Gwobrau Adnoddau Dynol Cymru yn flynyddol i gydnabod rhagoriaeth adnoddau dynol mewn ystod eang o sectorau.

Mae Rhwydwaith Adnoddau Dynol Cymru - a ddatblygwyd gan Darwin Gray, y cwmni cyfraith masnach blaenllaw ac Acorn, sef prif asiantaeth recriwtio a hyfforddi arbenigol Cymru - yn llwyfan hanfodol i fod ar flaen y gad ym maes adnoddau dynol.

Mae ein haelodau, sy'n cynnwys Cyfarwyddwyr adnoddau dynol, Rheolwyr, Ymgynghorwyr, Cynghorwyr a pherchnogion busnesau bach a chanolig, yn gweld budd mawr o fod yn rhan o'n cymuned adnoddau dynol.

Gallwch chi ymuno â'r Rhwydwaith hefyd, am ddim, a chael budd o gael:

  • gwahoddiadau rheolaidd i seminarau perthnasol ledled Cymru
  • y wybodaeth ddiweddaraf am ein Gwobrau blynyddol
  • diweddariadau rheolaidd am ddeddfwriaeth adnoddau dynol drwy ein cylchlythyr Rhwydwaith Adnoddau Dynol Cymru
  • llwyfan parhaus i rannu a thrafod materion cyfredol, naill ai drwy ymuno â'n Grwp LinkedIn neu drwy rannu eich blog neu ddiweddariadau eich hunan ar ein gwefan




Ein digwyddiadau

Gyda thros ddeng mlynedd o brofiad o gynnal digwyddiadau adnoddau dynol, rydyn ni'n sicrhau bod siaradwr penodol ym mhob digwyddiad sydd wedi'i ddewis yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn cael cyngor diduedd arbenigol. Mewn digwyddiadau blaenorol, rydyn ni wedi gwahodd arbenigwyr o gwmnïau blaenllaw, gan gynnwys y Post Brenhinol, Cymdeithas Adeiladu y Principality a Llywodraeth Cymru, i rannu eu barn a'u profiadau proffesiynol am faterion fel rheoli absenoldeb, delio â pherfformiad gwael, a'r Ardoll Brentisiaethau.

Mae arddull anffurfiol ein seminarau yn golygu y gall pobl ddysgu nid yn unig gan y siaradwyr, ond gan gyd-arbenigwyr adnoddau dynol yn ogystal. Rydyn ni'n gwahodd cwestiynau o'r llawr drwy gydol ein seminarau ac yn annog gwaith rhyngweithiol mewn grwpiau er mwyn sicrhau bod cyfle gennych i drafod unrhyw bryderon ac i rannu enghreifftiau o arferion gorau.




Ein Gwobrau

“Noson Wobrwyo AD Cymru yw prif ddigwyddiad calendr blynyddol Rhwydwaith AD Cymru ac mae’n noson bwysig i’r rhai hynny sydd â’r dasg o weithredu Adnoddau Dynol o fewn eu cwmniau.

Ar y 23ain o Fawrth eleni, cynhaliwyd y noson dan arweiniad y ddarlledwraig, Sian Lloyd, yn Stadiwm SSE Swalec, Caerdydd. Rhoddwyd gwobrwyon i dimoedd ac unigolion AD am eu cyfraniad arbennig i faes AD. Yr oedd yn noson fendigedig yn dathlu rhagoriaeth ym maes AD ar draws Cymru a hynny yng nghwmni côr Only Boys Aloud ac Opera Ieuenctid Cwmni Opera Cymru.





Partneriaid